Dyddiad: Mawrth 22, 2018
Mae cwmni adeiladu o Wrecsam wedi dathlu 30 mlynedd o fusnes y mis hwn, gan ddod â chleientiaid a chontractwyr ynghyd i gydnabod y garreg filltir.
Roedd Read Construction yn coffáu 3 degawd o dwf, arloesi a datblygu busnes ymroddedig ar ddechrau mis Mawrth, mewn dathliad a fynychwyd gan staff, cleientiaid, ymgynghorwyr ac aelodau'r gadwyn gyflenwi.

Graham Read a Richard Heaton
"Mae pawb yn y dathliad wedi chwarae rhan hanfodol yn stori lwyddiant barhaus Read. Mae ein tîm yn parhau i gydweithio, dysgu ac esblygu, ynghyd â'n hymgynghorwyr a'n cadwyn gyflenwi ymroddedig i gwrdd â heriau'r diwydiant," meddai Alex Read, Cyfarwyddwr
O ddechreuadau gostyngedig ym 1988 gyda dim ond pedwar o weithwyr, mae'r BBaCh wedi parhau â'u twf busnes blwyddyn ar ôl blwyddyn, sydd bellach yn cyflogi 67 aelod o staff. Gan gyflawni prosiectau lleol ar draws Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr, mae Read wedi adeiladu'n gyson ar eu hymrwymiad i uwchsgilio'r gweithlu lleol trwy gydol ei brosiectau.

"Rydym yn hynod falch o'r garreg filltir anhygoel hon yr ydym wedi'i chyrraedd, ac yn ei gweld yn addas ein bod yn dathlu gyda'r bobl sydd wedi ein helpu i dyfu. Rydym yn edrych ymlaen at gyrraedd ein carreg filltir nesaf a byddwn yn parhau i yrru arloesedd trwy ddarparu prosiectau gyda'n cleientiaid," meddai Richard Heaton, Rheolwr Gyfarwyddwr




