Dyddiad: Hydref 11, 2022

Daeth seremoni torri hawl i nodi dechrau'r gwaith adeiladu yn Llys Awelon Grŵp Cynefin, Rhuthun, â'r holl bartneriaid sy'n rhan o'r cynllun mawr gwerth £12.2 ynghyd i ddiweddaru ac ymestyn cyfleuster Tai Gofal Ychwanegol.
Dathlodd Prif Weithredwr Grŵp Cynefin Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych, Graham Boase, Cyfarwyddwr Read Constuctions Wiliam Jones, a swyddogion allweddol eraill sy'n rhan o'r prosiect uchelgeisiol, y seremoni ar y safle yn agos i ganol tref Rhuthun.
Mae'r prosiect yn golygu ailddatblygu'r Llys Awelon presennol yn llwyr i greu cynllun modern, carbon isel, pwrpasol i ddiwallu anghenion pobl hŷn yn ardal Sir Ddinbych. Bydd yn cynnig 35 o fflatiau un a dwy ystafell wely ychwanegol i'r 21 fflat presennol, o fewn adeilad pwrpasol gydag ardaloedd cymunedol fel gerddi, lolfeydd, bwyty a salon trin gwallt.
Mae'r prosiect yn cynnwys gweithio ochr yn ochr â'r cyfleuster presennol, gan achosi cyn lleied o darfu â phosibl ar y preswylwyr a'r staff ac yn y pen draw diweddaru'r cyfleuster hwnnw i'r un fanyleb carbon isel o safon uchel.
Mae'r prosiect yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Ddinbych, Grŵp Cynefin a Llywodraeth Cymru ac fe'i cefnogir gan £7.1 miliwn o gyllid Rhaglen Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
Gyda chynlluniau yng Nghaergybi, Y Bala, Porthmadog, Dinbych a Rhuthun, mae Tai Gofal Ychwanegol Grŵp Cynefin yn cynnig ffordd o fyw annibynnol i breswylwyr gyda chymorth a gofal ychwanegol pe bai ei angen arnynt.
Dywed Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin:
"Rydym yn falch o allu gweithio'n agos gyda Chyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru i gynnig y gwasanaeth o'r safon uchaf yn Llys Awelon, Rhuthun, a fydd yn adnodd modern a gwerthfawr i'r ardal. Mae Read Constructions wedi bod yn rhan o'r cychwyn, oherwydd cymhlethdod y prosiect ac mae'n profi i fod yn gydweithrediad cynhyrchiol, gyda phob tîm yn gweithio'n anhygoel o dda i wireddu'r prosiect uchelgeisiol hwn.
Mae prosiectau o'r fath yn dod â rhinweddau gorau Grŵp Cynefin at ei gilydd – arbenigedd mewn Tai Gofal Ychwanegol ac egwyddorion pwysig – arloesi yn ein dulliau adeiladu gan ddefnyddio deunyddiau a thechnoleg i gyflawni carbon isel neu ddi-garbon, a'n gallu i ddod â phartneriaid ynghyd i gyflawni cynlluniau uchelgeisiol ac arloesol er budd ein cymunedau."
Dywed Graham Boase, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych:
"Rydym yn falch iawn o weithio gyda Grŵp Cynefin ar brosiect mor bwysig â Llys Awelon, Rhuthun, i helpu a chefnogi trigolion Sir Ddinbych.
Mae'n fraint wirioneddol nodi dechrau prosiect mor bwysig a buddiol a fydd yn cefnogi ein trigolion yn fawr trwy roi'r modd iddynt fyw'n annibynnol a darparu tai o ansawdd uchel iddynt sy'n diwallu ystod eang o anghenion.
Rwy'n edrych ymlaen at gwblhau'r gwaith hwn a gweld y manteision y bydd yn eu cynnig i'n trigolion."
Meddai Wiliam Jones, Cyfarwyddwr Read Constructions:
"Fel cwmni o ogledd ddwyrain Cymru, mae Read yn falch iawn o fod wedi dechrau gweithio ar ein cynllun gofal ychwanegol diweddaraf ar gyfer Grŵp Cynefin. Mae gan yr ailddatblygiad gwerth £12m hwn o'u safle Llys Awelon yn Rhuthun bwyslais lleol cryf gyda thîm dylunio lleol a phartneriaid yn y gadwyn gyflenwi. Trwy gydol y cynllun, mae Read wedi ymrwymo i gefnogi'r dref leol a'r cymunedau cyfagos drwy ail-fuddsoddi'r bunt leol a'r cyfleoedd gwaith."




