Dyddiad: Mawrth 31, 2023
Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi penodi Read Construction yng Ngogledd Cymru i wneud y gwaith ar Gampws newydd Coleg Menai Bangor, a fydd wedi'i leoli ar Barc Menai ym Mangor, gyda'r addysgu ar y campws i fod i gael ei gynnal o fis Medi 2024.
Bydd y prosiect, gyda chefnogaeth £14 miliwn o Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru, yn adleoli darpariaeth bresennol Coleg Menai o safle Ffordd a Friars Ffriddoedd.

Y campws newydd ym Mangor - a fydd yn agos iawn at yr adran Gelf hirsefydlog sydd eisoes wedi'i lleoli ar Barc Menai - fydd y cartref newydd ar gyfer deg maes galwedigaethol:
Gwallt a Harddwch, Lletygarwch ac Arlwyo, Busnes, Teithio a Thwristiaeth, Celfyddydau Perfformio, Cerddoriaeth, Cyfryngau (Datblygu Teledu a Gemau), Mynediad i Addysg Uwch, Dysgu Oedolion yn y Gymuned a Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill.
Bydd cyfleusterau arloesol ar lefel y diwydiant, yn amrywio o gegin hyfforddi broffesiynol, ystafell Apple Mac, a gofod Llyfrgell Plus modern.
Bydd salonau gwallt a harddwch a bariau ewinedd sy'n cael eu rhedeg gan ddysgwyr ar agor i'r cyhoedd, yn ogystal â stiwdio berfformio 180 o seddi a fydd yn cael ei defnyddio gan yr adran Celfyddydau Perfformio ar gyfer perfformio theatr a sioeau byw. Bydd aelodau'r cyhoedd hefyd yn gallu bwyta yn y bwyty hyfforddi ar y safle yn ystod yr wythnos.

Bydd dysgwyr a staff hefyd yn elwa o ffreutur mawr cynllun agored a bar coffi, a bydd presenoldeb Gwasanaethau Dysgwyr mawr yn cynnig arweiniad gyrfaoedd, cefnogaeth gyfrinachol a gweithgareddau lles i fyfyrwyr.
Bydd y datblygiad cyffrous hefyd yn cael ei ardystio Net-Zero Carbon a BREEAM rhagorol, trwy osod paneli solar, pympiau gwres ffynhonnell aer a goleuadau LED.
Mae Grŵp Llandrillo Menai hefyd yn gweithio gydag adran Teithio Llesol Llywodraeth Cymru i ddatblygu cysylltiadau trafnidiaeth gynaliadwy i'r safle, drwy greu llwybrau beicio.
Dywedodd Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai,
"Mae'r campws cyffrous newydd hwn yn gyfle arloesol i addysgu trawsadrannol a fydd yn gwella profiad y dysgwr. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd y cyfleuster yn cryfhau cysylltiadau gyda phartneriaid yn y diwydiant, drwy ddefnyddio'r gofod i gynnal dosbarthiadau meistr ac arddangosfeydd".
Ychwanegodd,
"Hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth barhaus ac am y pecyn ariannu hael a gawsom ar gyfer y prosiect hwn".
Dywedodd Aled Jones-Griffith, Pennaeth Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor,
"Gyda'r gobaith y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau erbyn tua Pasg 2024, rwy'n edrych ymlaen at roi cyfle i fyfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr gerdded o amgylch y campws newydd cyn i'r campws agor y mis Medi canlynol."
"Rydym eisoes yn gweithio gydag ysgolion yn yr ardal fel rhan o'r ddarpariaeth 14-19, ac rydym yn awyddus i ddatblygu'r bartneriaeth honno ymhellach fyth - erbyn hyn mae gennym gyfleusterau modern ar draws pob safle".
Dywedodd Alex Read, Cyfarwyddwr Read Construction,
"Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Grŵp Llandrillo Menai i gyflawni eu cynllun sero net diweddaraf yn Nhŷ Menai. Fel cwmni balch yng Ngogledd Cymru, rydym wedi ymrwymo i ail-fuddsoddi punt Cymru trwy ymgysylltu cwmnïau lleol, a chyflogaeth pobl leol ar y cynllun mawreddog hwn."




