Ymunodd Wesley â Read yn ôl yn 2020 wrth gwblhau ei HNC yn yr Amgylchedd Adeiledig. Yn sgil egni ac ymrwymiad Wesley datblygodd ei sgiliau a’i wybodaeth, i ddod yn ased allweddol i dîm cyflawni’r prosiect. Ac yntau’n awyddus i barhau â’i ddysgu, mae Wesley bellach wedi cychwyn ar Brentisiaeth Gradd mewn Rheolaeth Adeiladu.




