Ymunodd Wil â Read yn 2005 fel Syrfëwr Meintiau dan Hyfforddiant, gan symud ymlaen drwy’r cwmni i’w swydd heddiw. Wil sy’n bennaf gyfrifol am dîm masnachol Read, gan gefnogi a datblygu tîm o Syrfewyr Meintiau ac Amcangyfrifwyr hynod hyfedr, sy’n gweithio i gyflawni twf busnes cynaliadwy, tra’n cynnal perthnasoedd cadarn gyda’n cleientiaid, ymgynghorwyr a’r gadwyn gyflenwi. Mae Wil yn cofleidio gweithio ar y cyd a datrys problemau, gan chwilio am ddulliau newydd ac opsiynau amgen i wella cyflwyniad unrhyw brosiect.




